Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 303(8) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2016

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygioRheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 (“Rheoliadau 2015”).

Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad ag archiadau a wneir i awdurdodau cynllunio lleol am wasanaethau cyn ymgeisio([1]).

Mae rheoliad 3 yn gwneud mân ddiwygiadau i reoliadau 8(3), 9(3) a 15 o Reoliadau 2015 mewn perthynas â cheisiadau am gymeradwyaeth ar gyfer materion wrth gefn. Diwygiadau canlyniadol yw’r rhain i ddiwygiadau sydd i’w gwneud i erthyglau 22 a 23 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 gan Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2016.

Mae rheoliad 4 yn darparu ar gyfer ffioedd gostyngedig sy’n daladwy am geisiadau o dan adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 pan fo cais blaenorol o dan adran 96A(4) o’r Ddeddf honno wedi ei wrthod, ei wrthod yn rhannol neu heb ei benderfynu o fewn y cyfnod perthnasol([2]).

Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â diwygiadau i geisiadau am ddatblygiad mawr, a gyflwynir cyn bo’r awdurdod cynllunio lleol yn penderfynu’r cais (diwygiadau ar ôl cyflwyno).

Mae’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol sy’n gymwys i’r Rheoliadau hyn ar gael gan Lywodraeth Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru yn www.cymru.gov.uk.


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 303(8) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2016 Rhif (Cy. )

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2016

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym                         16 Mawrth 2016

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 303 a 333(2A) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990([3]), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Yn unol ag adran 303(8) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) (Diwygio) 2016 a deuant i rym ar 16 Mawrth 2016.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015([4]).

Diwygiadau mewn perthynas ag archiadau am wasanaethau cyn ymgeisio

2.(1)(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

(2) Yn Rheoliad 1(3)—

(a)     yn is-baragraff (a), ar ôl “daw’r Rheoliadau hyn i rym;” hepgorer “a”;

(b)     yn is-baragraff (ix) ar ôl “ganiatâd cynllunio)”  mewnosoder “; ac”;

(c)     ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

(c) i archiadau am ddarpariaeth o wasanaethau cyn ymgeisio gan awdurdod cynllunio lleol.

(3) Yn rheoliad 2 yn y mannau priodol mewnosoder—

ystyr “Rheoliadau 2016” (“the 2016 Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn Ymgeisio) (Cymru) 2016; ac

mae i “datblygiad gwastraff” (“waste development”) yr un ystyr ag yn erthygl 2(1) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

(4) Ar ôl rheoliad (2) mewnosoder—

Ffioedd am archiadau am wasanaethau cyn ymgeisio o dan Reoliadau 2016

2A.—(1) Pan gyflwynir archiad i awdurdod cynllunio lleol am wasanaethau cyn ymgeisio o dan Reoliadau 2016, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw.

(2) Cyfrifir y ffi, sy’n daladwy mewn cysylltiad ag archiad am wasanaethau cyn ymgeisio, yn unol ag Atodlen 4.

(3) Rhaid talu’r ffi i’r awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir yr archiad iddo, a rhaid ei chyflwyno ynghyd â’r archiad.

(4) Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir o dan y rheoliad hwn os gwrthodir yr archiad fel un annilys.

(5) Ar ôl Atodlen 3, mewnosoder yr Atodlen 4 a gynhwysir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn.

Diwygiadau mewn perthynas â cheisiadau am gymeradwyaeth ar gyfer materion wrth gefn

3.(1)(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio ymhellach fel a ganlyn.

(2) Yn lle rheoliad 8(3) rhodder—

(3) Yn y rheoliad hwn mae i “cais dilys” (“valid application”), yn achos cais am ganiatâd cynllunio, yr un ystyr ag yn erthygl 22(3) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu, ac yn achos cais am gymeradwyaeth ar gyfer materion wrth gefn, yr un ystyr ag yn erthygl 23(3) o’r Gorchymyn hwnnw([5]).

(3) Yn rheoliad 9(3) —

(a)     ar ôl “yn erthygl 22(2)” mewnosoder “neu 23(1)”; a

(b)     ar ôl “o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu” mewnosoder “yn ôl y digwydd”.

(4) Yn rheoliad 15(1) ar ôl “Pan fo cais” mewnosoder “(ac eithrio cais am gymeradwyaeth ar gyfer materion wrth gefn)”.

(5) Yn rheoliad 15(2) yn lle “erthygl 23” rhodder “erthygl 23(1)”.

Diwygiadau mewn perthynas â cheisiadau a wneir yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990

4.(1)(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio ymhellach fel a ganlyn.

(2) Yn rheoliad 16(1)(a) yn lle “cais deiliad tŷ” rhodder “cais am newid gan ddeiliad tŷ”.

(3) Yn rheoliad 16(5)—

                            (i)    ar ôl “Yn y rheoliad hwn” mewnosoder “ac ym mharagraff 5A o Ran 1 o Atodlen 1” a

                          (ii)    yn lle ““cais deiliad tŷ” (“householder application”)” rhodder ““cais am newid gan ddeiliad tŷ” (“householder change application”)”.

(4) Ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 1, yn lle “Pan” rhodder “Yn ddarostyngedig i baragraff 5A, pan”.

(5) Ar ôl paragraff 5 mewnosoder—

5A.—(1) Pan wneir cais yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990—

(a)   yn dilyn gwrthod, neu wrthod yn rhannol, gais cynharach o dan 96A(4) o Ddeddf 1990 a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd; neu

(b)   pan nad yw’r awdurdod cynllunio lleol wedi rhoi hysbysiad o’i benderfyniad mewn cysylltiad â chais cynharach o dan 96A(4) o Ddeddf 1990, a wnaed gan neu ar ran yr un ceisydd, o fewn y cyfnod a bennir yn erthygl 28A(7) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu([6]);

a’r holl amodau a nodir yn is-baragraff (2) wedi eu bodloni, y ffi sy’n daladwy yw’r ffi a bennir yn is-baragraff (3).

(2) Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—

(a)   y gwnaed y cais o fewn 6 mis yn dilyn—

                       (i)  dyddiad gwrthod neu wrthod yn rhannol y cais cynharach; neu

                      (ii)  yn ôl fel y digwydd, diwedd y cyfnod a bennir yn erthygl 28A(7) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu mewn perthynas â’r cais cynharach;

(b)   bod yr awdurdod cynllunio lleol y cyflwynir y cais iddo wedi ei fodloni bod y cais yn ymwneud â datblygiad o’r un cymeriad neu ddisgrifiad â’r datblygiad yr oedd y cais cynharach yn ymwneud ag ef (ac nid yn ymwneud ag unrhyw ddatblygiad arall);

(c)   bod y ffi a oedd yn daladwy mewn cysylltiad â’r cais cynharach wedi ei thalu; a

(d)   nad yw’r ceisydd eisoes wedi talu ffi o dan y paragraff hwn mewn cysylltiad â chais blaenorol a wnaed yn unol ag adran 73 o Ddeddf 1990, a oedd yn ymwneud â datblygiad o’r un cymeriad neu ddisgrifiad â’r datblygiad y mae’r cais presennol yn ymwneud ag ef.

(3) Y ffi yw—

(a)   os yw’r cais yn gais am newid gan ddeiliad tŷ, £160;

(b)   mewn unrhyw achos arall, £95.

Diwygiadau mewn perthynas â ffioedd am ddiwygiadau ar ôl cyflwyno, i geisiadau am ddatblygiad mawr

5.(1)(1) Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio ymhellach fel a ganlyn.

(2) Ar ôl rheoliad 16, mewnosoder—

Ffioedd am ddiwygiadau ar ôl cyflwyno, i geisiadau am ddatblygiad mawr

16A.—(1) Pan fo diwygiad i gais dilys y mae paragraff (2) yn gymwys iddo wedi ei gyflwyno i awdurdod cynllunio lleol yn unol ag erthygl 22(1A) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu, rhaid talu’r ffi a bennir ym mharagraff (3) i’r awdurdod cynllunio lleol.

(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ddiwygiad i gais dilys am ddatblygiad mawr.

(3) Y ffi yw £190.

(4) Yn y rheoliad hwn—

(a)   mae i “cais dilys” (“valid application”) yr un ystyr ag yn erthygl 22(3) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu;

(b)   mae i “datblygiad mawr” (“major development”) yr un ystyr ag yn erthygl 2(1) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

Darpariaeth drosiannol

6. Nid yw’r darpariaethau ym mharagraffau (2) a (3) o reoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i gais am gymeradwyaeth ar gyfer materion wrth gefn a wneir cyn y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

 

 

 

Y Gweinidog Adnoddau Naturiol, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad


 

YR ATODLEN

ATODLEN 4 Rheoliad2A

Ffioedd mewn Cysylltiad ag Archiadau am Wasanaethau Cyn Ymgeisio

RHAN 1

Ffioedd taladwy o dan Reoliad 2A

1.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff 2 o’r Rhan hon, cyfrifir y ffi sy’n daladwy o dan reoliad 2A yn unol â’r tabl a nodir yn Rhan 2 a pharagraffau 3 i 5.

(2) Yn y Rhan hon—

(a)   mae cyfeiriad at gategori yn gyfeiriad at gategori o ddatblygiadau arfaethedig a bennir yn y tabl a nodir yn Rhan 2; ac mae cyfeiriad at gategori â rhif yn gyfeiriad at y categori sy’n dwyn y rhif hwnnw yn y tabl; a

(b)   mae i “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yr un ystyr ag yn erthygl 2(1) o’r Gorchymyn Gweithdrefn Rheoli Datblygu.

2. Pan fo archiad am wasanaethau cyn ymgeisio yn ymwneud â chais arfaethedig gan ddeiliad tŷ, y ffi sy’n daladwy yw £25.

3. Pan fo’r ffi, mewn cysylltiad ag unrhyw gategori, i’w chyfrifo drwy gyfeirio at arwynebedd y safle, rhaid cymryd mai’r arwynebedd hwnnw yw arwynebedd y tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef.

4. Mewn perthynas â datblygiad arfaethedig yng nghategori 2 neu 3, rhaid penderfynu’r arwynebedd llawr gros a grëir gan y datblygiad arfaethedig yn ôl mesuriad allanol yr arwynebedd llawr, pa un a oes bwriad ai peidio i’w ffinio (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) gyda waliau allanol adeilad.

5. Pan fo archiad am wasanaethau cyn ymgeisio yn ymwneud â mwy nag un categori, mae ffi sengl yn daladwy, sef yr uchaf o’r ffioedd a gyfrifir yn unol â phob categori o’r fath.


RHAN 2

Ffioedd mewn Cysylltiad ag Archiadau am Wasanaethau Cyn Ymgeisio

 

Categori o ddatblygiad arfaethedig

Ffi daladwy

1. Codi tai annedd

(a)     Pan fo—

                            (i)    nifer y tai annedd sydd i’w creu gan y datblygiad arfaethedig yn un i naw, £250,

                          (ii)    nifer y tai annedd sydd i’w creu gan y datblygiad arfaethedig yn 10 i 24, £600,

                        (iii)    nifer y tai annedd sydd i’w creu gan y datblygiad arfaethedig yn fwy na 24, £1,000;

 

(b)     pan fo nifer y tai annedd sydd i’w creu yn anhysbys ac—

                            (i)    arwynebedd y safle arfaethedig yn ddim mwy na 0.49 hectar, £250,

                          (ii)    arwynebedd y safle arfaethedig yn 0.5 i 0.99 hectar, £600,

                        (iii)    arwynebedd y safle arfaethedig yn fwy na 0.99 hectar, £1,000.

2. Codi adeiladau (ac eithrio tai annedd)

(a)     Pan fo’r—

                            (i)    arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad arfaethedig yn ddim mwy na 999 metr sgwâr, £250,

                          (ii)    arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad arfaethedig yn 1,000 i 1,999 metr sgwâr, £600,

                        (iii)    arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad arfaethedig yn fwy na 1,999 metr sgwâr, £1,000;

 

(b)     pan nad yw’r arwynebedd llawr gros sydd i’w greu gan y datblygiad arfaethedig yn hysbys ac—

                            (i)    nad yw’r arwynebedd safle arfaethedig yn fwy na 0.49 hectar, £250,

                          (ii)    arwynebedd arfaethedig y safle yn 0.5 i 0.99 hectar, £600,

                        (iii)    arwynebedd arfaethedig y safle yn fwy na 0.99 hectar, £1,000.

3. Gwneud newid sylweddol yn y defnydd o adeilad neu dir

(a)     Pan fo’r archiad am wasanaethau cyn ymgeisio yn ymwneud â chais arfaethedig am ganiatâd i wneud newid sylweddol yn y defnydd o adeilad ac—

                            (i)    nad yw arwynebedd llawr gros y datblygiad arfaethedig yn fwy na 999 metr sgwâr, £250,

                          (ii)    pan fo arwynebedd llawr gros y datblygiad arfaethedig yn 1,000 i 1,999 metr sgwâr, £600,

                        (iii)    pan fo arwynebedd llawr gros y datblygiad arfaethedig yn fwy na 1,999 metr sgwâr, £1,000;

 

(b)     Pan fo’r archiad am wasanaethau cyn ymgeisio yn ymwneud â chais arfaethedig am ganiatâd i wneud newid sylweddol yn y defnydd o dir ac—

                            (i)    nad yw arwynebedd y safle arfaethedig yn fwy na 0.49 hectar, £250,

                          (ii)    arwynebedd y safle yn 0.5 i 0.99 hectar, £600,

                        (iii)    arwynebedd y safle yn fwy na 0.99 hectar, £1,000.

4. Cloddio a gweithio mwynau neu ddefnyddio tir ar gyfer dyddodion gweithfeydd mwynau([7])

 

£600.

5. Datblygiad gwastraff

£600.

 



([1])           Ar gyfer gwasanaethau cyn ymgeisio, gweler Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gwasanaethau Cyn Ymgeisio) (Cymru) 2016 (O. S. 2016/● (Cy. ●).

([2])           Y cyfnod perthnasol yw 28 diwrnod neu pa bynnag gyfnod hwy a gytunir, gweler erthygl 28A o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 (O.S. 2012/801 (Cy. 110).

([3])           1990 p. 8. Amnewidiwyd adran 303 gan adran 199 o Ddeddf Cynllunio 2008 (p. 29) a diwygiwyd hi gan adran 27 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 (dccc. 4) a pharagraff 18 o Atodlen 4 i’r Ddeddf honno. Gweler adran 336(1) o Ddeddf 1990 ar gyfer ystyr “prescribed”. Gwnaed diwygiadau eraill nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn. Mewnosodwyd adran 333(2A) gan adran 118(1) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5) a pharagraffau 1 a 14 o Atodlen 6 i’r Ddeddf honno.

([4])           O.S. 2015/1522 (Cy. 179).

[5] Diwygiwyd erthygl 22(3) gan O.S. 2016/xxxx (Cy. xxxx)

([6])           Mewnosodwyd erthygl 28A gan O.S. 2014/1772 (Cy. 183).

([7])           Ar gyfer y diffiniad o mineral-working deposit” gweler adran 336 o Ddeddf 1990.